Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
10 Mawrth 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11184
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-6, 8 a 10. Tynnwyd cwestiynau 7 a 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 8 gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad am: Nodi genedigaeth Robert Owen 250 mlynedd yn ôl (nodi ei gyfraniad i'r delfrydau cydweithredol a hawliau gweithwyr a mwy) (ganwyd ar 14 Mai 1771).
Gwnaeth Russell George ddatganiad am: Nodi 20 mlynedd o Ambiwlans Awyr Cymru (lansiwyd ar 1 Mawrth 2001).
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Diabetes math 2
Dechreuodd yr eitem am 15.18
NDM7552 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) mai Cymru yw'r lle gyda'r cyfraddau uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae dros 200,000 wedi cael diagnosis, lle yr amcangyfrifir bod 65,000 gyda math 2 heb ddiagnosis, a lle mae 500,000 arall mewn perygl o gael diabetes;
b) bod gofalu am bobl â diabetes eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG;
c) y risgiau cynyddol o ddal COVID-19 ar gyfer dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a
d) llwyddiant a chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl gwobr, a dreialwyd yng Nghwm Afan.
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o gynllun atal diabetes i Gymru.
Cyd-gyflwynwyr
Cefnogwyr
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar adferiad hirdymor o COVID-19
Dechreuodd yr eitem am 15.38
NDM7623 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, Adferiad tymor hir o COVID-19, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar ddeiseb P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng
Dechreuodd yr eitem am 16.21
NDM7624 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng’ a gasglodd 5,159 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Amseroedd aros y GIG
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7626 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.
2. Yn cydnabod bod 5 o bob 7 bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig neu wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu dros y pum mlynedd diwethaf.
3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi dal GIG Cymru yn ôl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn:
a) clirio'r ôl-groniad o driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth;
b) recriwtio o leiaf 1,200 o feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; ac
c) trawsnewid iechyd meddwl drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
3 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu;
b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd;
c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a
d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
2 |
20 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol
Gwelliant 4. Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r unig ffordd o drawsnewid iechyd a gofal yw drwy:
a) ffocws newydd ar fesurau ataliol; a
b) integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor drwy wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol integredig newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
40 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7626 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.
2. Yn cydnabod:
a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu;
b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd;
c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a
d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
8 |
14 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd
9 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.27 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.30.
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.35
NDM7625 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Gweithio i wella? Diffygion yn achos Kelly Wilson ac archwilio i ba raddau y mae'r diwylliant a'r prosesau o fewn y GIG wedi newid.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2021